Gweu

Hen Gymraes yn gweu gwlân, tua 1885.

Y grefft o ddolennu neu blethu ynghyd edafedd gyda dwy neu ragor o weill i lunio deunydd neu ddillad yw gweu neu gwau. Mae'n fath o wniadwaith. Gall fod yn grefft a arferir gan unigolion, gan wau â llaw, neu'n rhan o broses diwydiannol mawr.

Er ei bod yn bosibl gweu bob math o ddefnydd, fe'i cysylltir yn bennaf â llunio dillad gwlân.

Ym mytholeg Roeg Cardo yw duwies gweu.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search